Mamolaeth: Bwrdd iechyd yn cyhoeddi cynigion
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd mwya Cymru wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru.
Yn y dogfennau gafodd eu cyhoeddi gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae nifer o opsiynau posib.
Un o'r opsiynau yw cadw'r gwasanaeth fel y mae ar hyn o bryd.
Ond mae'r bwrdd iechyd yn sôn am y posibilrwydd o newidiadau dros dro yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Fe fydd cyfarfod arbennig yn trafod y cynigion ddydd Mawrth nesa ac os ydyn nhw'n cael eu cymeradwyo bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio ar 24 Awst.
Adolygiad barnwrol
Byddai disgwyl i ganlyniadau'r ymgynghoriad gael eu cyflwyno ym mis Tachwedd.
Fis diwethaf fe wnaeth ymgyrchwyr oedd yn gwrthwynebu newidiadau i wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd sicrhau adolygiad barnwrol.
Penderfynodd y bwrdd iechyd beidio â herio'r adolygiad barnwrol a bu'n rhaid iddyn nhw dalu costau'r ymgyrchwyr.
Dywedodd y llys fod angen i'r bwrdd iechyd gynnal proses ymgynghori cyn cyflwyno unrhyw newidiadau.