Caerdydd 1-0 Wimbledon
- Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Fe wnaeth cic rydd wych gan Craig Noone sicrhau buddugoliaeth i Gaerdydd yn erbyn AFC Wimbledon yn rownd gyntaf y Cwpan Cynghrair.
Sgoriodd Noone gol gofiadwy yn erbyn Fulham ddydd Sadwrn i sicrhau pwynt i Gaerdydd, ac roedd ei gol ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn erbyn Wimbledon hefyd yn glasur.
Daeth Kenwyne Jones ymlaen fel eilydd ond methodd gyda chyfle da i guro James Shea.
Daeth cyfle gorau Wimbledon i Tom Elliott ond gyda dim ond dau funud yn weddill be darodd ei beniad yn erbyn y postyn.