Wolves 2-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd

Er iddynt fynd ar y blaen yn erbyn Wolves colli fu hanes Casnewydd yn rownd gyntaf y Cwpan Cynghrair.

Scott Boden roddodd Casnewydd ar y blaen gyda pheniad o bum llath ar ôl dim ond chwe munud.

Ond tarodd Nouha Dicko yn ôl i'r tîm cartref.

Aeth Wolves ar y blaen gyda chic o'r smotyn Benik Afobe - a hynny ar ôl trosedd arno gan Scott Barrow.

Bu'n rhaid i golgweidwad Wolves Emiliano Martinez fod yn effro i rwystro Danny Holmes rhag dod a'r sgôr yn gyfartal.