Arolwg: Myfyrwyr Cymru yn hapus eu byd
- Cyhoeddwyd

Mae tair o brifysgolion Cymru ymhlith y lleoedd gorau o ran rhoi boddhad i fyfyrwyr, yn ôl arolwg.
Dywedodd o leiaf 90% o fyfyrwyr blwyddyn olaf yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor eu bod yn fodlon gyda'u profiad o fywyd prifysgol.
Y ganran ar gyfer myfyrwyr Aberystwyth a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd oedd 83%.
Hwn yw'r 11eg tro i'r arolwg gael ei gynnal.
Tra oedd 80% o fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr (Wrecsam) yn fodlon, y ganran ar gyfer Prifysgol De Cymru a'r Drindod Dewi Sant oedd 79%.
300,000
Cafodd dros 300,000 o fyfyrwyr eu holi mewn colegau a phrifysgolion yn y DG.
Yn ôl y canlyniadau, dywedodd myfyrwyr fod yna welliannau wedi bod ym meysydd dysgu, asesu, cefnogaeth academaidd a datblygiad personol.
O ran yr holl adrannau'n ymwneud â phrofiad academaidd myfyrwyr, mae boddhad wedi cynyddu neu wedi aros yr un fath ers 2014.
Dywedodd Dr David Blaney, Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: "Mae perfformiad cryf addysg uwch yng Nghymru yn adlewyrchu'r gwaith sy'n cael ei wneud i wella profiadau myfyrwyr a darparu amgylchedd dysgu o'r safon uchaf."