Tŷ Newydd: Pryder am y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol sy'n datblygu llenyddiaeth yng Nghymru, wedi cyhoeddi buddsoddiad o £50,000 yn hen gartref Lloyd George, sef Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy.
Dywedodd llefarydd ar ran Tŷ Newydd eu bod yn bwriadu gwario rhan helaeth o'r arian ar adnewyddu golwg y tŷ, "yn enwedig ar ddodrefn i'r 12 o ystafelloedd gwely, yn ogystal â gwella'r llyfrgell a'r gegin."
Ond mae wedi dod i'r amlwg wrth i'r Ganolfan ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed fod pryder fod diffyg cyrsiau Cymraeg preswyl ar gael eleni.
"Rydym ni ar hyn o bryd yn gweithio ar raglen ar gyfer 2016," meddai'r llefarydd.
"Mae'r ffaith fod diffyg diddordeb yn ein cyrsiau preswyl {cyfrwng Cymraeg} yn y gorffennol wedi bod yn achos pryder."
"Ond rydym ni am drio trefnu rhai eto, gan obeithio cyd-weithio gyda sefydliadau Cymreig eraill a thargedu grwpiau newydd.
"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu awduron fel Gareth F. Williams a Manon Steffan Ros i gynnal sesiynau yma dros y flwyddyn."
Nodweddion unigryw
O ran yr arian buddsoddi, daw £30,000 oddi wrth Cyngor Celfyddydau Cymru, £10,000 o'r Academi Gymraeg a £10,000 o Sefydliad Teulu Ashley.
Bydd rhan o'r arian yn cael ei ddefnyddio i gyflogi pensaer i lunio cynllun cadwraeth ar gyfer y gwaith adnewyddu ac adfer rhai o nodweddion unigryw yn yr adeilad rhestredig Gradd II.
Cafodd Tŷ Newydd ei adeiladu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, diweddarwyd y tŷ yn y cyfnod Sioraidd, cyn dod yn gartref olaf i'r Prif Weinidog David Lloyd George.
Bydd paneli newydd yn rhoi gwybodaeth am hanes y tŷ a'r Ganolfan yn cael eu gosod yn y cyntedd, a bydd y tŷ haul yn cael ei drawsnewid i dderbynfa gyda siop anrhegion llenyddol Cymreig.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: "Ers 25 mlynedd, mae Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd wedi cael ei gwerthfawrogi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol fel safle o bwysigrwydd diwylliannol."
Dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: "Yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn datblygu awduron o bob math, mae Tŷ Newydd yn dod â buddsoddiad i Wynedd. Bydd y grantiau hyn yn cael eu gwario'n lleol ac yn sicrhau twf mewn llenyddiaeth yng Nghymru ac yn yr economi leol."