30 o ddiffoddwyr yn brwydro tân yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae tua 30 o ddiffoddwyr wedi bod yn brwydro tân mewn canolfan ailgylchu yng Nghaerdydd.
Fe wnaeth pedair injan dân fynychu Atlantic Recycling yn ardal Gwynllŵg am tua 21:30 nos Fawrth.
Fe gafodd wastraff ei lusgo allan a'i ddiffodd, ond mae rhan fechan wedi ailgynnau.
Mae criwiau'n parhau yn y lleoliad, ond ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn y digwyddiad.