Galwad i ailystyried cynllun peilonau Ynys Môn
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sydd eisiau gweld gwifrau trydan ar Ynys Môn yn cael eu claddu dan y môr yn hytrach na defnyddio peilonau ar y tir, wedi galw ar y Grid Cenedlaethol i ailystyried eu cynlluniau.
Byddai dewis cyntaf y Grid Cenedlaethol ar gyfer ail res o beilonau ar draws yr ynys dair gwaith yn rhatach na'r cynllun tanddwr.
Ond mae trigolion wedi dweud eu bod eisiau pŵer o ffermydd gwynt a Wylfa Newydd i gael eu cysylltu i'r grid o dan y môr.
Bydd ymgyrch 'Ynys Môn yn Erbyn Peilonau' yn cyflwyno llythyr i'r Grid yn Sioe Amaethyddol Môn ddydd Mercher, er mwyn eu hannog i ailfeddwl.
Mae disgwyl i'r Grid Cenedlaethol wneud sylw maes o law.
Mae'r llythyr yn dweud: "Ry'n ni'n galw ar y Grid Cenedlaethol i ailystyried eu cynlluniau a mabwysiadau ceblau tanfor fel eu dewis cyntaf i drosglwyddo pwer i Lannau Dyfrdwy a thu hwnt."
Bydd llwybr y peilonau yn dilyn yr un llwybr a'r rhai presennol, o orsaf ger Bae Cemaes i is-orsaf Pentir yng Ngwynedd.
Mae'r Grid Cenedlaethol wedi dweud na fydden nhw yn adeiladu peilonau mewn mannau sydd wedi'u dynodi fel ardaloedd o brydferthwch naturiol, felly bydd rhaid i'r ceblau redeg yn danddaearol ar draws Afon Menai.
Dywedodd llefarydd y byddai opsiynau tanddaearol yn achosi "peryglon technegol digynsail".