Diweithdra yn gostwng i 90,000 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth graddfa diweithdra y DU gynyddu 25,000 rhwng mis Ebrill a mis Mehefin
Mae lefelau diweithdra yng Nghrymu wedi disgyn i 90,000 - gostyngiad o 9,000 yn y chwarter diwethaf.
Mae mwy o bobl wedi darganfod gwaith yng Nghymru nac yn unrhyw ranbarth arall o'r DU dros y chwarter diwethaf.
Dywedodd Alun Cairns o Swyddfa Cymru bod y "ffigyrau yn cadarnhau bod ein cynllun economaidd tymor hir yn gweithio."
Fe wnaeth graddfa diweithdra y DU gynyddu 25,000 rhwng mis Ebrill a mis Mehefin i 1.85 miliwn o bobl.