Pryder am ddiffyg barnwyr Cymraeg, yn ôl Elfyn Llwyd

  • Cyhoeddwyd
Elfyn Llwyd
Disgrifiad o’r llun,
Mae Elfyn Llwyd yn fargyfreithiwr ac yn gyn-aelod y Pwyllgor Cyfiawnder yn San Steffan

Mae'r bargyfreithiwr a chyn-aelod y Pwyllgor Cyfiawnder yn San Steffan, Elfyn Llwyd, wedi cwestiynu a fydd hi'n bosib cynnal achosion mawr trwy gyfrwng y Gymraeg yn y dyfodol.

Mae'n rhannu pryder Elwen Evans QC y gallai diffyg barnwyr Cymraeg olygu bod llai o achosion yn cael eu cynnal yn yr iaith.

Fe wnaeth hi godi'r pryderon yn ei chyfweliad teledu cyntaf ers cael ei phenodi yn Bennaeth Coleg y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn siarad gyda rhaglen Post Cyntaf Radio Cymru, dywedodd Mr Llwyd: "Dwi'n rhannu ei phryder a'i gofid hi. Bydd rhaid i ni sicrhau bod 'na bobl yn cael eu hyfforddi ar y lefel uchaf, er mwyn cymryd yr achosion pwysig iawn yma.

"Mae'n bwysig, fel y mae hi'n dweud, bod pobl yn defnyddio'r Gymraeg, a bod pobl yn cymryd y cyfle, hyd yn oed os ydyn nhw yn y proffesiwn yn barod, i hyfforddi eu hunan trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gymwys i gynnal achosion trwy gyfrwng yr iaith."

Disgrifiad,

Rhodri Llywelyn fu'n holi Elwen Evans QC ar Newyddion 9

Ychwanegodd: "Wrach ein bod ni mewn rhyw sefyllfa dros dro lle nad oes yna sidanwyr Cymraeg eu hiaith. Wrach bod 'na rai i ddod. Ond dwi'n ffeindio hi'n anodd gweld y bydd 'na lawer ohonyn nhw yn y dyfodol agos iawn felly, ac mae hynny'n bryderus ar gyfer y dyfodol.

"Roedd hi'n ddiddorol iawn gwrando ar Elwen yn siarad am yr angen am gyfundrefn gyfreithiol i Gymru. Dwi'n cytuno cant y cant efo hi yn fanna.

"Os 'da chi mewn practis yng Nghymru ym myd cyfraith droseddol, teulu, amgylcheddol, cyfansoddiadol ac yn y blaen, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n gwybod am y cyfreithiau Cymreig sy'n cael eu creu, sydd yn wahanol - yn sylweddol yn aml - i'r hyn sy'n digwydd dros y ffin yn Lloegr."