Dirwy o £100,000 i berchnogion cartref gofal Pontcanna

  • Cyhoeddwyd
Shirwan and Nasik Al-MuftiFfynhonnell y llun, Prosecuting Authority Cardiff Council
Disgrifiad o’r llun,
Fe blediodd Mr a Mrs Dr Al-Mufti yn euog i'r cyhuddiadau yn Llys y Goron Caerdydd

Mae perchnogion cartref gofal lle bu farw hen wraig wedi iddi ddisgyn i lawr siafft lifft wedi cael gorchymyn i dalu dirwy o £100,000.

Bu farw May Lewis, 96 oed, ar ôl disgyn 20 troedfedd (6m) yng Nghartref Gofal Pontcanna House yng Nghaerdydd yn 2012.

Fe wnaeth gofalwr Mrs Lewis, Carol Conway, ddioddef anafiadau difrifol hefyd wedi iddi gerdded yn ôl i mewn i'r lifft gyda Mrs Lewis mewn cadair olwyn.

Fe gyfaddefodd Shirwan a Nasik Al-Mufti i ddau achos o dorri rheolau iechyd a diogelwch difrifol yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.

Allwedd brys

Clywodd y llys bod y lifft wedi cael ei gloi oherwydd nam technegol ond bod allwedd brys yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan staff i agor y drysau gyda llaw.

Roedd Ms Conway wedi aros nes bod cloch y lifft wedi canu cyn mynd i mewn, ond nid oedd llwyfan y lifft wedi cyrraedd, ac fe syrthiodd y ddwy i lawr y siafft.

Dywedodd yr erlynydd, Cyngor Caerdydd, mai Mr a Mrs Dr Al-Mufti oedd yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelwch eu staff a phreswylwyr.

Clywodd y llys bod iechyd a diogelwch y cartref yn is na'r safonau a ddisgwylir, a bod Mr a Mrs Dr Al-Mufti wedi methu â chadw at rybuddion, ac na ddylai'r allwedd frys fod wedi ei ddefnyddio.