Casnewydd 2-2 Stevenage

  • Cyhoeddwyd
Aaron Collins of Newport County and Dean Wells of Stevenage challenge for the ballFfynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency

Fe wnaeth Mark Hughes daro yn yr amser oedd wedi ei ychwanegu ar gyfer anafiadau i rwystro Casnewydd rhag sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yn yr Ail Adran.

Stevenage oedd y tîm cryfaf yn yr hanner cyntaf a nhw aeth ar y blaen cyn yr egwyl gyda Dipo Akinyemi yn sgorio wrth i Stevenage wrthymosod.

Roedd perfformiad Casnewydd yn y ail hanner llawer gwell, ac fe lwyddodd Aaron Collins i ddod a'r sgôr yn gyfartal.

Yna, gyda dim ond 11 munud yn weddill sgoriodd Scott Bowen i'r tîm cartref.

Fe wnaeth peniad Hughes ddod a'r sgôr yn gyfartal ond ychydig eiliadau cyn diwedd y gêm fe wnaeth Medy Elito wastraffu cyfle da i Gasnewydd.