Wrecsam 3-0 Aldershot

  • Cyhoeddwyd
Dominic VoseFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dominic Vose

Roedd yna fuddugoliaeth gyfforddus i Wrecsam ar y Cae Ras gyda goliau Wes York, James Gray a chic o'r smotyn hwyr gan Dominic Vose.

Ail fuddugoliaeth i Wrecsam y tymor hwn a hynny ar ôl dechrau siomedig yn erbyn Bromely ddydd Sadwrn diwethaf.

Mae'r canlyniad yn gweld Wrecsam yn codi i'r chweched safle yn y Cynghrair Cenedlaethol.

Fe wnaeth York sgorio ar ôl croesiad Connor Jennings.

Sgoriodd Gray gyda pheniad, yn dilyn peniad iddo gan Manny Smith.

Fe wnaeth Vose sicrhau'r pwyntiau ar ôl i Luke Oliver o Aldershot droseddu yn y bocs.