Buddugoliaeth i Cordina
- Cyhoeddwyd

Joe Cordina o Gasnewydd
Mae'r Cymro Joe Cordina wedi sicrhau o leiaf fedal efydd yng nghystadleuaeth pwysau ysgafn ym Mhencampwriaeth Bocsio Ewrop yn Bwlgaria.
Fe gurodd rhif un y byd, yr Eidalwr Domenico Valentino, drwy ei lorio yn y rownd gyntaf yn Sofia.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod Cordina drwodd i'r pedwar olaf ac yn sicrhau lle ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Qatar ym mis Hydref - lle bydd o'n ymgeisio am le yn nhîm Prydain ar gyfer y gemau Olympaidd yn Rio.