Cynllun newydd i addysgu plant am arian
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun gwerth £400,000 wedi ei lansio i helpu rhieni i ddysgu eu plant sut i reoli arian.
Bydd plant yn dysgu sgiliau fel hunan reolaeth, dyfalbarhad, agweddau rhesymol at arian, a gosod amcanion ariannol.
Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol a Chronfa'r Loteri Fawr, a'r gobaith ydi cynnnig cyngor i tua 1,000 o rieni a 1,600 o blant rhwng tri ac 11 oed ar hyd Cymru.