Safon Uwch: Cynnydd yn y radd uchaf
- Cyhoeddwyd

Mae canran y myfyrwyr safon uwch yng Nghymru sydd wedi llwyddo i gael y radd uchaf wedi cynyddu am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cafodd 7.3% o ddisgyblion radd A* tra oedd 6.7% y llynedd.
Ac er bod disgyblion Cymru yn perfformio'n waeth na disgyblion Lloegr ar y cyfan, mae disgyblion Cymru'n perfformio ychydig yn well nag ardaloedd eraill cyfatebol o Loegr fel y gogledd a'r canolbarth.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis fod hwn yn "berfformiad cryf arall yng Nghymru".
Ychwanegodd: "... mae disgyblion wedi gwneud yn arbennig o dda mewn pynciau allweddol fel Mathemateg, Mathemateg Bellach a Ffrangeg.
"Mae'r ganran o'n myfyrwyr sydd wedi ennill y radd uchaf un wedi cynyddu eto fyth, ac eleni rydym yn gweld y niferoedd uchaf o A* yng Nghymru ers i'r radd gael ei chyflwyno yn 2010."
Gwelliant
Dywedodd fod hyn yn dangos gwelliant gwirioneddol a chynyddol ymhlith ein dysgwyr mwyaf abl.
"Ffrwyth llawer iawn o waith caled gan fyfyrwyr a'u hathrawon ledled Cymru yw hyn ac fe hoffwn longyfarch yn galonnog bawb sydd wedi cyfrannu at y llwyddiant," meddai.
Er y cynnydd yn nifer y rhai sydd wedi derbyn gradd A*, mae'r gyfradd basio gyffredinol rhwng A*-E wedi gostwng o'i chymharu gyda llynedd.
Yn 2014 fe gafodd 23.3% o ddisgyblion raddau A*-A. Eleni roedd y ffigwr ychydig yn is ar 23.1%.
Yn 2014 fe gafodd 97.5% radd A*-E. Ond erbyn eleni roedd y ffigwr wedi disgyn i 97.3%.
Uchafbwyntiau
- Dim ond yng Nghymru a Llundain y gostyngodd y gyfradd basio gyffredinol;
- Er bod nifer y rhai yng Nghymru gafodd A* wedi codi, mae Cymru "yng nghanol y tabl" ac yn uwch na gogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr, Sir Efrog, Humberside a Dwyrain a Gorllewin Canolbarth Lloegr;
- Yng Nghymru cafodd 7.8% o fechgyn a 6.9% o ferched A*;
- Cafodd 97.9% o ferched raddau A*-E o'u cymharu â 96.6% o fechgyn.
MANYLION CLIRIO COLEGAU
- Prifysgol Aberystwyth 0800 121 40 80 @AberUni "
- Prifysgol Bangor 0800 085 1818; 0800 328 5763 (Welsh lang) @BangorUni
- Prifysgol Caerdydd, 029 2087 6000 @cardiffuni
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd 0300 330 0755 @cardiffmet #cardiffmet
- Prifysgol Glyndwr 01978 293439
- Prifysgol Abertawe 0800 094 9071 @SwanseaUni
- Y Drindod Dewi Sant 0300 323 1828 @UWTSD
- Prifysgol De Cymru 03455 76 06 06 @UniSouthWales
- UCAS #Clearing @ucasclearing 0371 468 0 468
Am y tro cyntaf erioed roedd y fagloriaeth Gymreig wedi ei graddio:
Gradd A* - 12.2%
Gradd A - 29.3%
Gradd B - 30.3%
Gradd C - 20.4%
Anghymwys - 7.8%
Er bod y fagloriaeth yn cael ei graddio, dim ond 120 o bwyntiau UCAS y mae disgyblion yn eu derbyn, beth bynnag yw eu gradd.
Mae'n debyg fod yn well gan brifysgolion weld yn union sut y mae disgyblion yn perfformio.