Newidiadau i lif traffig ar Ffordd y Brenin
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor Abertawe wedi cadarnhau eu bod yn disgwyl gwneud newidiadau i gyfeiriad traffig sy'n teithio ar hyd Ffordd y Brenin yn yr hydref.
Bu galw am newidiadau ar ôl dwy ddamwain angheuol o fewn 18 mis ar ôl i gerddwyr fod mewn gwrthdrawiad a bysiau.
Dywed y cyngor y byddant yn dechrau ar y newidiadau unwaith i wasanaeth bysiau cymalog - y bendy bus - ddod i ben.
Ar ôl hynny, bydd yr holl fysiau sy'n teithio i'r dwyrain ar y lôn fysiau ar hyd Heol y Brenin yn cael eu hail gyfeirio.
Bydd yn newidiadau yn costio tua £200,000 gan gynnwys arwyddion newydd ac ailosod llinellau traffig ar Ffordd y Brenin.
Fis Medi'r llynedd, bu farw Daniel Foss, 37, o Benrhyn Gŵyr, wedi i fws National Express ei daro.
Ym mis Ebrill eleni bu farw'r blismones Louise Lucas pan gafodd ei tharo gan fws.
Dywedodd y cynghorydd Mark Thomas, aelod o Gabinet Abertawe gyda chyfrifoldeb am drafnidiaeth: "Bydd angen ychydig o waith er mwyn caniatáu i fysiau sy'n teithio i'r dwyrain ar Ffordd y Brenin newid i ddefnyddio llwybrau gwahanol.
"Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn yr wythnosau nesa, gan amharu cyn lleied a phosib ar lif traffig."