Hibbard, Phillips a Hook allan o garfan Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Richard Hibbard, Mike Phillips a James Hook allan o garfan Cwpan y Byd Cymru.
Heddiw fe wnaeth yr hyfforddwr Warren Gatland leihau'r garfan i 38.
Y pum chwaraewr arall sy' ddim yn y garfan yw Nicky Smith, Rory Thorton, Dan Baker, Rhys Patchell a Jack Dixon.
Dywedodd Gatland: "Mae lleihau'r garfan wedi bod yn dasg anodd ... fe fydd rhai chwaraewyr yn siomedig ond mae'n bwysig cofio nad yw'r drws wedi cau.
"Bydd y garfan derfynol yn cael ei chyhoeddi ar 31 Awst ac fe all llawer o bethau ddigwydd tan ddiwedd mis Awst."
Bydd y garfan yn cwrdd eto ddydd Llun wrth baratoi cyn y gêm yn erbyn Iwerddon mewn pythefnos.
Y garfan ddiweddara:
Props: Scott Andrews (Gleision), Rob Evans (Scarlets), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Paul James (Gweilch), Aaron Jarvis (Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Rhodri Jones (Scarlets), Samson Lee (Scarlets).
Bachwyr: Scott Baldwin (Gweilch), Kristian Dacey (Gleision), Ken Owens (Scarlets).
Clo: Jake Ball (Scarlets), Luke Charteris (Racing 92), Dominic Day (Caerfaddon), Bradley Davies (Wasps), Alun Wyn Jones (Gweilch).
Rheng-ôl: Taulupe Faletau (Dreigiau), James King (Gweilch), Dan Lydiate (Gweilch), Ross Moriarty (Caerloyw), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton (Gleision, capten).
Mewnwyr: Gareth Davies (Scarlets), Rhys Webb (Gweilch), Lloyd Williams (Gleision).
Maswyr: Gareth Anscombe (Gleision), Dan Biggar (Gweilch), Matthew Morgan (Bryste), Rhys Priestland (Caerfaddon).
Canolwyr: Cory Allen (Gleision), Tyler Morgan (Dreigiau), Jamie Roberts (Harlequins), Scott Williams (Scarlets).
Asgellwyr: Hallam Amos (Dreigiau), Alex Cuthbert (Gleision), George North (Northampton Saints), Eli Walker (Gweilch).
Cefnwyr: Leigh Halfpenny (Toulon), Liam Williams (Scarlets).