58 yn marw tra'n aros am lawdriniaeth ar y galon yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r ffigyrau diweddaraf wedi dangos bod 58 wedi marw mewn dwy flynedd tra'n aros am lawdriniaeth ar y galon yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Daw'r ffigyrau ar ôl cais Rhyddid Gwybodaeth gan Blaid Cymru ac maen nhw'n dangos bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi defnyddio ysbytai yn Lloegr er mwyn lleihau amseroedd aros.
Mae Plaid Cymru wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i wella'r capasiti ar gyfer cynnal llawdriniaethau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ar ddiwedd Mehefin 2015 roedd pump yn aros am fwy na 36 wythnos am lawdriniaeth y galon yng Nghymru.
'161 yn aros'
"Ar ddiwedd Ebrill 2014 roedd 161 yn aros am fwy na 36 wythnos am lawdriniaeth y galon yng Nghymru."
Yn ôl yr ymateb i'r cais Rhyddid Gwybodaeth cafodd 38 o'r marwolaethau o fewn y ddwy flynedd eu cofnodi gan Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg, ac roedd 20 o farwolaethau yn ysbytai Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro.
O ran cyfanswm roedd bron 2,000 o lawdriniaethau yn Ysbyty Treforys, Ysbyty Athrofaol Cymru ac mewn ysbytai yn Lerpwl (ar gyfer cleifion o'r gogledd) yn 2014-15.
Roedd hynny saith o lawdriniaethau'n llai na'r flwyddyn gynt.
Ysbyty preifat
Ond mae'r ffigyrau wedi dangos bod 77 o lawdriniaethau yn Ysbyty Preifat Spire ym Mryste tra oedd wyth yn 2013-14.
Roedd achosion y marwolaethau tra ar y rhestr aros yn amrywio.
Dywedodd Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd: "Rhaid i ni wneud yn siŵr y bydd amseroedd aros y llawdriniaethau hyn, a all achub bywydau, yn dal i ostwng.
"Mae defnyddio'r sector breifat i gynnal llawdriniaethau ychwanegol, yn ogystal ag anfon cleifion o'r de i ysbytai'r GIG yn Lloegr, wedi amlygu pa mor bwysig yw cael mwy o allu a gwell rheolaeth ar restrau aros. Dyw anfon pobl i fannau eraill fyth yn ateb yn y tymor hir."
'Buddsoddi'n sylweddol'
Wrth gyfeirio at y gwahaniaeth rhwng y rhai oedd yn aros am fwy na 36 wythnos am lawdriniaeth yn 2014 a 2015 dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae llawer llai oherwydd penderfyniad i ddefnyddio rhai ysbytai yn Lloegr.
"Ateb dros dro oedd hwn tra oedd darparwyr yng Nghymru'n sicrhau trefniadau ar gyfer mwy o gapasiti'n lleol.
"Rydym wedi buddsoddi'n sylweddol ... mae'r capasiti yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn cael ei gynyddu ac mae gwaith ar y gweill yn Ysbyty Treforys, Abertawe."