Gwadu ceisio llofruddio mam
- Cyhoeddwyd

Tu allan i dŷ Rhian Robinson ym Mhontardawe
Yn Llys y Goron Caerdydd mae menyw 32 oed wedi gwadu ceisio llofruddio ei mam.
Cadarnhaodd Rhian Robinson ei henw.
Cafodd Cheryl Robinson, 63 oed, sawl anaf pan aeth hi draw i dŷ ei merch ac aed â hi i Ysbyty Treforys, Abertawe.
Bydd y diffynnydd ar fechnïaeth tan yr achos ar 28 Medi.
Cafodd hi ei harestio yn Ebrill cyn cael ei throsglwyddo i Ysbyty Glanrhyd, Pen-y-bont, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.