Digwyddiad yn hyrwyddo'r diwydiant ffermio yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Protest
Disgrifiad o’r llun,
Mae ffermwyr wedi bod yn protestio

Fe fydd digwyddiad yng Nghaerdydd ddydd Gwener i hyrwyddo'r diwydiant ffermio yng Nghymru.

Dywedodd undeb yr NFU yng Nghymru y byddai aelodau'n dosbarthu taflenni sy'n esbonio sut y gall y cyhoedd gefnogi cynnyrch o Gymru.

Hefyd bydd sesiynau blasu cig oen, cawsiau a llefrith Cymreig.

Dywedodd John Davies, dirprwy lywydd yr undeb, eu bod am greu delwedd gadarnhaol o ffermio ac esbonio'r problemau sy'n wynebu'r diwydiant.

Yn Aberystwyth ddydd Iau cynhaliodd Undeb Amaethwyr Cymru gyfarfod arbennig er mwyn trafod y camau nesa.

'Ymgyrch arbennig'

Dywedodd y llywydd Glyn Roberts: "Fe fyddwn yn lansio ymgyrch arbennig fydd yn tynnu sylw at broblemau'r diwydiant ac yn anelu at berswadio'r cyhoedd i gefnogi cynnyrch o Gymru.

"O fewn wythnosau fe fyddwn ni'n trafod â chyrff y diwydiant, y llywodraeth a manwerthwyr ac yn anelu at wella sefyllfa ein haelodau ni."

Yr wythnos hon roedd ffermwyr o Gymru mewn "uwch-gynhadledd argyfwng" ac yn rhybuddio bod y pris maen nhw'n ei dderbyn am eu hŵyn wedi cyrraedd lefelau difrifol o isel.

Maen nhw wedi honni bod y ganran o gig oen cartref sy'n cael ei gwerthu yn y siopau wedi gostwng o 60% i 50% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd yr archfarchnadoedd eu bod am i gwsmeriaid gael cynnyrch o safon uchel sydd hefyd yn fforddiadwy.