Rhybudd y gall glaw trwm effeithio ar rannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
tywyddFfynhonnell y llun, Met Office
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd cawodydd trwm yn lledaenu ar draws Cymru yn ystod oriau man y bore, ddydd Gwener

Disgwylir i law trwm barhau i ddisgyn dros Gymru yn ystod bore Gwener, wrth i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd tywydd.

Yn ôl y swyddfa, mae "risg sylweddol" o lifogydd, o ganlyniad i ddŵr arwynebol a mellt.

Mae'r rhybudd melyn mewn lle ar gyfer pob un o'r 22 ardal cyngor sir yng Nghymru, ar neges yw i'r cyhoedd fod "yn ymwybodol" o'r peryglon.

Disgwylir mwy na 50mm (1.96in) o law i ddisgyn yn ystod y bore.