Dedfrydu dynion am ryddhau baeddod gwyllt ym Maesteg

  • Cyhoeddwyd
baedd gwylltFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Fe all baeddod gwyllt grwydro hyd at 30 milltir y dydd wrth chwilio am fwyd

Mae tri dyn wedi eu carcharu am dros dair blynedd yr un am ryddhau dros 40 o faeddod gwyllt o fferm ger Pen-y-bont.

Fe gafodd 23 o faeddod hŷn ac 19 o faeddod ifanc eu rhyddhau o'u corlan ar Fferm Mynach Bryn ger Maesteg ym mis Ebrill 2014.

Plediodd Carl John, 27 oed, a James Marlow, 29 oed, yn euog i fyrgleriaeth a chaniatáu anifeiliaid i ddianc tra bod Adam John, 30 oed, wedi cyfaddef i gyhuddiadau o fyrgleriaeth a meddu ar eiddo troseddol.

Yn Llys y Goron Caerdydd cafodd y tri dair blynedd ac wyth mis o garchar yr un.

Roedd Heddlu De Cymru wedi rhybuddio'r cyhoedd i beidio â mynd yn agos at y baeddod a all ymosod os ydyn nhw'n cael eu cornelu.

Greg Davies oed perchennog yr anifeiliaid ac roedd ganddo drwydded i gadw anifeiliaid peryglus.

Dywedodd y barnwr, David Aubrey QC, nad oedd y dynion wedi meddwl am "ganlyniadau dinistriol" eu gweithredoedd.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Fe baeddod gwyllt Greg Davies eu gadael yn rhydd ym mis Ebrill 2014