Ymchwiliad i dân ar safle hen eglwys yn Llanelli
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i achos tân wnaeth ddinistrio hen eglwys yn Llanelli gan orfodi nifer o bobl sy'n byw gerllaw i adael eu cartrefi.
Cafodd criwiau eu galw i Eglwys y Parc, ar Stryd Murray tua 19:00 nos Iau.
Aed â 38 o bobl sy'n byw gerllaw i Ganolfan Hamdden Llanelli a bwyty cyfagos tra bod y diffoddwyr yn rheoli'r tân.
Erbyn hyn mae rhai wedi dychwelyd i'w tai, tra bod eraill yn aros gyda pherthnasau.
Mae yna bryder am ddiogelwch twr yr eglwys, ac mae peirianwyr yn aros caniatad y Gwasanaeth Tân cyn ymchwilio ymhellach.
Fideo Lowri John o'r tân ar Stryd Murray
Ni chafodd unrhyw un ei anafu.
Roedd 'na 35 o ddiffoddwyr yn brwydro yn erbyn y fflamau
Nos Iau dywedodd yr Arolygydd James Davies o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r eglwys yn wenfflam, ac wedi ei difrodi yn sylweddol.
"Oherwydd pryderon am ddiogelwch, mae nifer fawr o bobl sy'n byw yn yr ardal wedi cael eu symud i fannau diogel."