BBC Cymru Fyw

Tân ar hen safle capel yn Llanelli

Published
image copyrightArall
image captionCafodd y gwasanaeth tân wybod am 19:00

Mae pedwar criw yn ceisio delio â thân yn Llanelli.

Cafodd y gwasanaeth tân wybod am 19:00 wedi adroddiadau am fflamau a mwg ar safle Capel Annibynwyr Ebeneser yn Stryd Inkerman.

Does neb wedi cael ei anafu.

Mae pobol wedi gorfod gadael tai cyfagos a Stryd Murray a ffyrdd cyfagos wedi cael eu cau.