Amgueddfa Cymru: Mwy o weithredu diwydiannol
- Cyhoeddwyd

Mae Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhai safleoedd ar gau am gyfnodau dros yr wythnosau nesaf oherwydd mwy o weithredu diwydiannol aelodau undeb y PCS.
Dywedodd yr undeb eu bod yn anfodlon ar fwriad i roi'r gorau i daliadau arbennig am weithio penwythnosau sy', medden nhw, yn 15% holl gyflog rhai aelodau staff.
Ond dywedodd llefarydd ar arn yr amgueddaf: "Mae trafodaethau Amgueddfa Cymru gydag Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol drwy ACAS ar ddyfodol y taliadau premiwm, ymysg materion eraill, yn parhau.
'Siom'
"Rydym yn dal yn gobeithio dod i gytundeb ar y mater hwn. Felly siom oedd cael gwybod am fwriad PCS i barhau â'u gweithredu diwydiannol yn ystod y broses gymodi."
Ychwanegodd: "Rydym wedi rhoi cynnig gwell gerbron PCS ac mae'r undeb yn ei ystyried ar hyn o bryd.
"Dyma'r gorau y gallwn ni gynnig o ystyried yr adnoddau ariannol sydd gennym, sydd wedi crebachu dros 20% yn y blynyddoedd diwethaf."
Dyma'r manylion:
- Dydd Mercher 19 Awst - Amgueddfa Lechi Cymru ar gau; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ond mae'n bosibl y bydd rhai orielau ar gau.
- Dydd Iau 20 Awst - Amgueddfa Wlân Cymru ar gau; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar gau; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar agor ond mae'n bosibl y bydd rhai adeiladau ar gau.
- Dydd Sadwrn 22 Awst a Dydd Sul 23 Awst - Pwll Mawr Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.
- Dydd Sadwrn 29 Awst - Bydd Pwll Mawr Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru ar gau. Bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan ar agor ond mae'n bosibl y bydd rhai orielau neu adeiladau ar gau. Bydd Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar agor.
- Dydd Sul 30 Awst a Dydd Llun 31 Awst - Pwll Mawr Amgueddfa Lofaol Cymru ar gau.