Pêl-rwyd: Cymru'n colli i Awstralia
- Cyhoeddwyd

Mae tîm pêl-rwyd Cymru wedi colli o 24-89 yn erbyn y deiliaid Awstralia yn eu gêm grŵp olaf yng Nghwpan y Byd yn Sydney.
Gan fod Cymru wedi colli yn erbyn Lloegr a De Affrica nhw sy' ar waelod grŵp F.
Byddan nhw'n wynebu Malawi ddydd Sadwrn a'r enillydd yn chwarae am y pumed a'r chweched safle yn y gemau ail gyfle.
Mae Malawai eisoes wedi curo Cymru o 55-52 yng Nghwpan y Byd.