Y ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur

  • Cyhoeddwyd
Corbyn, Cooper, Kendall a Burnham
Disgrifiad o’r llun,
Y ras rhwng Corbyn, Cooper, Kendall a Burnham am arweinyddiaeth y blaid Lafur

Am ganol dydd ar 15 Mehefin fe wnaeth y broses o aelodau seneddol Llafur yn enwebu ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid ddod i ben.

Y disgwyl oedd y byddai'r frwydr rhwng y tri ymgeisydd oedd eisoes wedi croesi'r trothwy o gefnogaeth.

Ond, gyda dwy funud i fynd, roedd yna bedwerydd yn y ras.

Y farn gyffredin ar y pryd oedd nag oedd gan Jeremy Corbyn gobaith caneri o ennill y gystadleuaeth, ond erbyn hyn, fe yw'r ffefryn.

Mae'r gŵr sydd wedi bod yn aelod seneddol ers 1983 ac erioed wedi bod yn weinidog nac yn aelod cabinet wedi troi'r gystadleuaeth ar ei phen.

Nos Fawrth diwethaf, roedd dros 1,000 o bobl yng nghyfarfod y gwleidydd asgell-chwith yng Nghaerdydd, a llawer ohonynt yn gorfod sefyll oherwydd diffyg seddi.

Mae wedi bod yn olygfa gyffredin ar daith ymgyrchu Corbyn - yn Llundain, Lerpwl, Norwich, Caeredin a sawl man arall.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Jeremy Corbyn wedi bod ar daith yng Nghymru

"Mae hyn yn angerdd 'da ni ddim wedi gweld mewn gwleidyddiaeth, yn bendant yn Blaid Lafur, am sbel hir."

Ar ôl gadael Llafur y llynedd oherwydd ei fod e'n teimlo bod y blaid wedi symud yn rhy bell i'r asgell dde, mae Meic Birtwhistle wedi ail-ymuno'n ddiweddar er mwyn rhedeg ymgyrch Cymreig Corbyn.

"Mae o'n siarad yn blwmp ac yn blaen a hefyd achos bod ei wleidyddiaeth e'n dod drosodd fel rhywbeth didwyll. Does dim 'sbin' ar y peth o gwbl.

"Mae e wedi dangos bod e wedi dod mewn i wleidyddiaeth er mwyn ymladd yn erbyn anghyfiawnder a bod hyn yn apelio.

"Mae pobl eisiau clywed beth yw credoau sylfaenol gwleidydd yn hytrach na beth mae'r 'sbin doctors' yn cynnig.

"Maen nhw eisiau clywed rhywbeth o'r galon," meddai Mr Birtwhistle.

Ffynhonnell y llun, BBx
Disgrifiad o’r llun,
Nid yw Tony Blair eisiau gweld Corbyn fel arweinydd y blaid Lafur

Yn ogystal â derbyn cefnogaeth y nifer mwyaf o ganghennau lleol y Blaid Lafur yng Nghymru ac ar draws Prydain, mae un arolwg barn ddiweddar o aelodau'r blaid yn awgrymu bod Jeremy Corbyn ymhell ar y blaen.

Ond enwebu Jeremy Corbyn er mwyn lledaenu'r ddadl oedd bwriad sawl un o'i gyd-aelodau seneddol, er nag oedden nhw'n ystyried ei gefnogi.

Un o'r rheiny oedd Huw Irranca-Davies, AS Ogwr, sydd wedi dweud nag yw e'n difaru gwneud hynny, er ei fod o'n cefnogi Yvette Cooper.

Ar y llaw arall, mae cyn-ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, sydd hefyd yn cefnogi Cooper, yn ddi-flewyn ar dafod: "Dydw i ddim yn meddwl y byddai Jeremy Corbyn yn arweinydd llwyddiannus."

Er bod ganddi gefnogaeth sawl un o aelodau blaenllaw'r blaid ar draws Prydain ac yng Nghymru - Rhodri Morgan, Leighton Andrews AC, Ann Clwyd AS - mae Hain yn dweud bod angen iddi wella'i hymgyrch os yw hi'n mynd i fod yn llwyddiannus.

Cefnogi Andy Burnham mae Llefarydd presennol Llafur ar Gymru, Owen Smith AS, yn ogystal â'i ddirprwy, Nia Griffith AS.

Yn wir, Burnham sydd wedi ennill cefnogaeth y nifer mwyaf o aelodau seneddol Llafur ar draws Prydain a hefyd yng Nghymru.

Mae yna gefnogaeth hefyd i Liz Kendall (Paull Flynn AS, Stephen Doughty AS, Jessica Morden AS) er, yn ôl yr arolygon barn, hi sydd yn y safle olaf.

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, yr hyn sy'n ddiddorol yng nghyd-destun Cymreig amdani hi a Jeremy Corbyn yw bod nhw "eisiau symud tuag at Blaid Lafur ffederal."

Disgrifiad o’r llun,
Mae Richard Wyn Jones yn credu y byddai "symud tuag at Blaid Lafur ffederal yn rhoi mwy o hunaniaeth a rhyddid i Lafur Cymru"

"Ar hyn o bryd mae gennych chi'r Blaid Lafur yn yr Alban a'r Blaid Lafur yng Nghymru sy'n rhyw fath o ryw 'brands' yn y bôn o'r Blaid Lafur… ac i ddweud y gwir ychydig iawn o sylwedd sydd y tu ôl i'r brands Cymreig ac Albanaidd," meddai.

Mae Mr Jones yn credu y byddai rhoi mwy o hunaniaeth a rhyddid i Lafur Cymru "yn bellgyrhaeddol iawn" er bod "dau ymgeisydd y sefydliad, Burnham a Cooper, fel petai'n gwrthwynebu hynny."

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones eisoes wedi dweud ei fod yn cefnogi'r fath newid.

Er bod Llafur wedi colli tir yn annisgwyl yng Nghymru yn yr etholiad fis Mai, dywedodd Mr Jones bod "brand hyderus, gwreiddiol o Blaid Lafur Cymru" yn un rheswm pam fod Llafur yng Nghymru wedi osgoi'r un ffawd a'r blaid yn yr Alban.

Mae hynny'n bwynt dadleuol, ond does dadlau bod Llafur yn parhau i fod yn gryf ar ochr Gymreig i Glawdd Offa - Llafur sy'n cynrychioli 25 o'r 40 sedd Gymreig yn San Steffan ac yn llywodraethu ym Mae Caerdydd.

Does dim dwywaith felly y bydd y pedwar ymgeisydd yn awyddus i ennill cyn gymaint o bleidleisiau aelodau Cymreig ag sydd bosib yn yr wythnosau nesaf.

Gawn ni weld pa un ohonynt sydd wedi llwyddo i wneud hynny orau ar 12 Medi.