Arestio llanciau wedi tân mewn hen eglwys yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
tan llanelliFfynhonnell y llun, Jonathan Smith

Mae'r heddlu, sy'n ymchwilio i dân ddinistriodd hen eglwys yn Llanelli, wedi arestio pump o lanciau.

Cafodd criwiau eu galw i Eglwys y Parc ar Stryd Murray tua 19:00 nos Iau.

Mae bachgen 16 oed a phedwar bachgen 15 oed wedi eu harestio.

Aed â 38 o bobl, oedd yn byw gerllaw, i Ganolfan Hamdden Llanelli a bwyty cyfagos tra bod y diffoddwyr yn rheoli'r tân.

Mae yna bryder am ddiogelwch tŵr yr eglwys ac mae peirianwyr yn aros am ganiatâd y Gwasanaeth Tân cyn ymchwilio ymhellach.

Disgrifiad,

Fideo Lowri John o'r tân ar Stryd Murray

Chafodd neb ei anafu.

Ar un adeg roedd 'na 35 o ddiffoddwyr yn ceisio rheoli'r fflamau.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Smith
Ffynhonnell y llun, Jonathan Smith
Ffynhonnell y llun, Jonathan Smith