Ymchwilio i ddamwain farwol ger Dolgellau

  • Cyhoeddwyd
heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 11.30

Mae'r heddlu yn ymchwilio i ddamwain farwol ger Dolgellau.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar gyrion y dref fore Gwener ac mae'n debyg fod y dyn ifanc mewn damwain yn ymwneud â lori nwyddau trwm.

Mae'r dyn wedi ei enwi'n lleol fel John Lloyd, 23 oed.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Am 11:30 fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar gyrion Dolgellau ble oedd dyn wedi dioddef anafiadau marwol yn dilyn damwain gyda cherbyd nwyddau trwm.

"Fe fydd Heddlu Gogledd Cymru a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio ar y cyd."

Dywedodd y Cynghorydd Linda Morgan o Ddolgellau wrth BBC Cymru Fyw ei bod wedi ei "thristáu" o glywed am y farwolaeth.

"Mae'n drist iawn clywed am farwolaeth rhywun mor ifanc. Roedd John yn gweithio i gwmni benthyca peiriannau ei rieni a dwi'n meddwl am ei deulu a'i ffrindiau ar amser mor anodd."