Dathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dros 1,000 o bobl wedi cymryd rhan yn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel y dathliad mwyaf yng Nghymru o gydraddoldeb ac amrywiaeth yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.
Fe wnaeth gormymdaith Pride Cymru ddechrau o ganol y ddinas ac bydd yn diweddu gyda chyngerdd ym Mharc Biwt.
Dywed y trefnwyr eu bod yn gobeithio y bydd hyd at 20,000 o wylwyr yn mynychu'r cyngerdd.
Dywedodd Lu Thomas o Pride Cymru: "Mae eleni yn nodi 30 mlynedd ers yr orymdaith gyntaf yng Nghymru gan aelodau gymuned LGBT (lesbiaid, hoyw, deurywiol, thrawsryweddol) yn ogystal â bod yn ben-blwydd gorymdaith Pride Cymru yn 16."
"Rydym yn falch o ddweud bydd aelodau gwreiddiol o'r orymdaith gyntaf yng Nghymru yn 1985 yn bresennol."
Y cyflwynydd teledu a'r actor Andrew Hayden Smith fydd yn cyflwyno artistiaid y cyngerdd nos.