Yvette Cooper yn areithio yn y gogledd

Araith

Mae ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur Yvette Cooper wedi dweud bod cefnogwyr y blaid yn wynebu "dewis ffals" yn yr etholiad arweinyddol.

Yng Nghlwb Llafur Cei Conna nos Wener, dywedodd fod pobl yn credu eu bod yn gorfod dewis rhwng "y pen a'r galon," gan ddewis rhwng bod yn "radical neu'n geidwadol."

"Nid oes yn rhaid i chi ddewis un neu'r llall," meddai. "Nid oes rhaid i chi roi eich egwyddorion o'r neilltu yn yr etholiad yma."

Mae Ms Cooper, ynghyd â'r ymgeiswyr eraill Andy Burnham a Liz Kendall, tu ôl i'r ymgeisydd adain chwith Jeremy Corbyn yn y polau piniwn.

'Yn gredadwy'

Wrth siarad gyda BBC Cymru cyn y cyfarfod dywedodd Ms Cooper: "Mae'n rhaid i ni fod yn radical, mae rhaid i ni fod yn ddewis gwahanol i'r Ceidwadwyr a'u toriadau llymder o 40%, ond mae'n rhaid i ni fod yn gredadwy.

"A dyna ble rwy'n anghytuno gyda Jeremy achos nid ydw i'n credu fod y polisïau y mae'n siarad amdanyn nhw'n iawn ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae'n mynd yn ôl i'r ugeinfed ganrif.

"Rwy'n credu bod yn rhaid bod yn radical am y dyfodol, nid dim ond y gorffennol."

Roedd dros 70 o bobl yn y cyfarfod. Mae cangen blaid Lafur Alun a Glannau Dyfrdwy wedi lleisio ei chefnogaeth i Jeremy Corbyn.

Image caption Yvette Cooper yn areithio yng Nghlwb Llafur Cei Conna nos Wener