Drakeford yn cefnogi Corbyn
- Cyhoeddwyd

Liz Kendall, Andy Burnham, Yvette Cooper a Jeremy Corbyn
Mae Gweinidog Iechyd Cymru Mark Drakeford wedi dweud ar ei wefan y bydd yn cefnogi Jeremy Corbyn yn y bleidlais am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.
Mr Drakeford yw'r ail weinidog i ddatgan ei safbwynt yn gyhoeddus.
Mae'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Leighton Andrews wedi dweud y bydd yn pleidleisio dros Yvette Cooper.
Mae Andy Burnham a Liz Kendall hefyd yn y ras.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi.