Gwaith £2.7m i ehangu porthladd Casnewydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith, gwerth £2.7 miliwn, wedi dechrau o ailddatblygu rhan o borthladd Casnewydd.
Bydd y datblygiad yn galluogi'r porthladd i ymdrin â cargos mwy o faint.
Mae'n cynnwys storfa 7,200 metr sgwâr, yn bennaf ar gyfer nwyddau'r diwydiant dur.
Dywed Associated British Ports y bydd y buddsoddiad yn golygu y bydd y porthladd yn gallu ymateb i alw cynyddol gan gwsmeriaid.