Gwelliannau i groesfan yn ardal Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Broad Oak level crossingFfynhonnell y llun, Eirian Evans/Geograph

Mae un o lonydd ardal Wrecsam wedi ei chau dros dro tra bod Newtowrk Rail yn gwneud gwaith i wella croesfan.

Bydd y ffordd yn Broad Oak ger Yr Orsedd yn cau dydd Sadwrn ac yn parhau wedi ei chau tan 5 Medi.

Mae'r gwelliannau yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dywed Network Rail fodd arwyddion wedi eu gosod er mwyn dargyfeirio traffig.

Bydd ffyrdd eraill yn cau yn ddiweddarach eleni ac mae'n rhan o brosiect ehangach i wella siwrneiau trên led led Cymru.