Arestio dyn ar ôl anaf i ddynes
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Ffordd Bryn Mawr, Treffynnon
Mae dyn wedi ei arestio ac aed â dynes i'r ysbyty gydag anafiadau i'w bol yn dilyn digwyddiad yn Sir Fflint.
Dywed yr heddlu iddynt gael eu galw i Dreffynnon yn oriau man bore Sadwrn.
Fe wnaeth yr heddlu rybuddio pobl i gadw draw o ardal Ffordd Bryn Mawr am gyfnod wedi'r digwyddiad.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion.