Ymgeiswyr Llafur yn ceisio cefnogaeth
- Cyhoeddwyd

Mae dau o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y blaid Lafur, Andy Burnham a Liz Kendall, yn ymweld â Chymru ddydd Sul, wrth geisio cefnogaeth aelodau'r blaid.
Fe fydd Mr Burnham yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gydag aelodau'r blaid yn Wrecsam.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gadeirio gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Cymru.
Fe fydd Ms Kendall yn mynd â'i hymgyrch hi i Gaerdydd.
Fe wnaeth y ddau ymgeisydd arall yn y ras - Yvette Cooper a Jeremy Corbyn - ymweld â Chymru yr wythnos diwethaf.
Bu Ms Cooper yng Nghei Connah ar Lannau Dyfrdwy ddydd Gwener, gan bwysleisio'r angen am greu swyddi o sgiliau uchel.
Roedd Mr Corbyn yng Nghymru dydd Llun a dydd Mawrth, yn pwysleisio ei neges gwrth lymdra.
Daeth 1,000 o gefnogwyr i'w weld mewn rali yng Nghaerdydd.
Fe gafodd y papurau pleidleisio eu dosbarthu i aelodau ddydd Gwener.
Fe fydd rhaid i bleidleiswyr roi rhif wrth bob un o'r pedwar ymgeisydd yn ôl eu dewis, gyda'r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 12 Medi.