Mamolaeth: 'Cau ar fyr rybudd'
- Cyhoeddwyd

Dywed pennaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod unedau mamolaeth yn y gogledd wedi gorfod cau ar fyr rybudd yn y gorffennol oherwydd bod y Bwrdd yn wynebu "anawsterau difrifol" wrth recriwtio meddygon.
Cafodd Simon Dean, ei benodi fel pennaeth dros dro y Bwrdd yn yr haf ac mae o'n dweud fod rheolwyr yn gorfod gwneud trefniadau munud olaf yn ddyddiol gan fod dim digon o feddygon.
Mae'r broblem, meddai wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales, yn effeithio gwasanaethau obstetric, y tri ysbyty mawr yn y rhanbarth.
"Bu'n rhai i unedau gau am gyfnodau o amser pan nad yw wedi bod yn bosib rhoi gofal i famau a babanod mewn modd diogel," meddai.
Fe fydd bwrdd rheoli Betsi Cadwaladr yn cwrdd ddydd Mawrth i drafod dogfen ymgynghorol sy'n cynnwys tri opsiwn. ac os ydyn nhw'n cael eu cymeradwyo bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio ar 24 Awst.
Cythruddo
Mae'r opsiynau yn cynnwys israddio dros dro unedau obstetric yn un ai Ysbyty Glan Clwyd (Bodelwyddan), Ysbyty Gwynedd (Bangor) neu Ysbyty Maelor (Wrecsam).
Mae'r bwrdd iechyd yn ffafrio israddio'r uned yn Ysbyty Galan Clwyd. Byddai hynny'n golygu y byddai'r uned yn cael ei arwain gan fydwragedd yn hytrach na meddygon.
Golygai hynny y byddai genedigaethau mwy cymhleth yn gorfod myn di Fangor neu Wrecsam.
Cafodd y syniad o israddio Glan Clwyd ei godi am y tro cyntaf ar ddechrau'r flwyddyn, gan gythruddo nifer o bobol a gwleidyddion lleol.
Maen nhw'n dadlau y byddai hyn yn golygu risg mwy i famau sy'n gorfod teithio ymhellach er mwyn cael gofal.
Yn wreiddiol dywedodd y bwrdd iechyd nad oedd yna amser i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus oherwydd bod angen newidiadau ar frys.