Damwain farwol: Apêl am dystion

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion yn dilyn damwain angheuol ar yr A40 ger Llanwrda, Sir Gaerfyrddin.

Dywed yr heddlu bod gyrrwr beic modur, Owen Gwynfryn Nurse, 52 oed o Benclawdd, wedi dioddef anafiadau difrifol.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 11:00 bore dydd Sul.

"Fe wnaeth gyrrwr beic modur Suzuki ddioddef anafiadau difrifol, a bu farw yn y fan a'r lle," meddai llefarydd.

Doedd yna ddim cerbyd arall yn y gwrthdrawiad.

Digwyddodd y ddamwain tua hanner milltir i'r gogledd o Lanwrda.

Dywed yr heddlu eu bod am glywed gan unrhyw un oedd yn teithio ar yr A40 rhwng Llanymddyfri a Llangadog tuag adeg y ddamwian.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101.