Pryder am fygythiad trydaneiddio rheilffordd

  • Cyhoeddwyd
Pont
Disgrifiad o’r llun,
Bydd angen gosod ceblau trydan ar 60 o bontydd rheilffordd

Mae'r cynlluniau i drydaneiddio prif reilffordd y de wedi creu pryderon ymhlith busnesau ynglŷn â'r effaith posib ar ffyrdd yr ardal.

Bydd angen addasu 60 o bontydd rheilffordd rhwng twnel Hafren ac Abertawe er mwyn cwblhau'r gwaith trydaneiddio ac fe allai hynny olygu cyfyngiadau mawr ar draffig.

Eisoes mae Network Rail yn addasu pontydd yn Sir Fynwy, ac mae gan y cwmni gynllun i ehangu'r gwaith cyn bo hir i rannau eraill o'r sir ac i ardal Casnewydd.

Dywedodd Gafyn Stiff, rheolwr busnes glanhau ym Meisgyn, ger Pontyclun "bydd moderneiddio'r trac yn cael effaith bositif iawn yn y pen draw, ond os ydych chi yn siarad â busnesau lleol yma 'da ni ddim yn mynd i weld effaith y trac newydd.

"Maen nhw yn dibynnu ar bobl yn pasio heibio ar y ffyrdd - ac fe fydd y traffic mewn a mas o Bontyclun yn dod i stop am beth amser - felly mae mynd i gael effaith negyddol iawn."

Dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach eu bod yn bwriadu cydweithio â Network Rail er mwyn helpu paratoi busnesau bach ar gyfer trafferthion ar y ffyrdd.

Yn ôl Matthew Williams o'r ffederasiwn "mae trydaneiddio yn medru dod â thwf economaidd i dde Cymru, ond mae problemau tymor byr yn anochel".

"Mae'r ffederasiwn wedi bod yn siarad â Network Rail er mwyn annog y cwmni i rannu gwybodaeth a busnesau bach."