Marwolaeth Henllan: Heddlu'n ymchwilio
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ymosodiad yn Henllan ger Dinbych yn dilyn marwolaeth dyn yn ei 60au.
Digwyddodd yr ymosodiad yn ardal Parc y Llan ar 11 Awst.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd, lle bu farw ddydd Sadwrn.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau ei fod yn byw yn lleol, ond nid ydynt yn ei enwi ar hyn o bryd.
Arestiwyd dyn lleol arall wedi'r digwyddiad, ac mae wedi'i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Bydd ymchwiliad post mortem yn cael ei gynnal fory.