Awydd trefnu carnifal?
- Cyhoeddwyd
Penwythnos yma mae Carnifal Trebiwt yn cael ei gynnal eto, ar ôl iddo ddychwelyd y llynedd yn dilyn saib o 16 o flynyddoedd.
Dechrau digon syml oedd i Garnifal Trebiwt, Caerdydd yn 1977 - 'chydig o stondinau yn Sgwâr Loudoun a llwyfan bychan ar gyfer bandiau lleol. Pan dyfodd yn rhy fawr i'r lleoliad yn ystod yr 1980au, symudodd i Barc y Gamlas, sef tua'r un pryd daeth Keith Murrell yn rhan o'r digwyddiadau fel cerddor.
Cychwyn 'sylfaenol'
"Roedd y llwyfan cyntaf yn y parc yn sylfaenol iawn - ar gefn lori, a doedd dim mwy o strwythur, dim rig goleuo. Roedd y perfformiadau yn rhedeg yn hwyr, ac erbyn i ni ddechrau chwarae, roedd hi'n tywyllu. Daeth rhywun â lamp o'u cartref er mwyn i ni weld beth oedden ni'n ei wneud, a dwi'n cofio chwerthin gan fod y lampshade dal arno fe!"
Tyfodd boblogrwydd Carnifal Trebiwt yn aruthrol ddechrau'r 1980au ac roedd amcangyfrif yn y South Wales Echo fod 40,000 o bobl wedi mynychu dros y deuddydd yn 1984 - er mai tua 5,000 oedd poblogaeth Trebiwt ar y pryd.
Diffyg arian
Ond er mwyn parhau â digwyddiadau fel hyn, mae angen dau beth - arian a phobl i wneud y trefnu - a daeth y ddau beth yma'n fwy a mwy prin. Roedd sefydliadau yn cynnig ariannu'r digwyddiad am ychydig flynyddoedd ac yna'n stopio, neu yn ceisio creu rhywbeth gwahanol i beth oedd y gymuned eisiau. Stopiodd fod yn rhywbeth cymunedol.
Daeth y carnifal i ben ddiwedd yr 1990au, ac er fod Keith wedi parhau i geisio trefnu digwyddiadau llai bob hyn a hyn ar benwythnosau Gŵyl y Banc mis Awst, doedd o ddim yn credu ei bod hi'n iawn i'w galw nhw yn 'Garnifal'.
Sefyllfa debyg yn y gogledd
Mae'r stori yn un cyffredin, ac yn un cyfarwydd i Eric Baylis, a bu am flynyddoedd yn rhan o bwyllgor trefnu Carnifal Llanberis. Cafodd y carnifal ei gynnal gyntaf yn 1968, ond mae bellach wedi dod i ben ers dros ddegawd.
Ar un adeg, roedd y carnifal a Ras yr Wyddfa yn cael eu cynnal yr un diwrnod, ac roedd y carnifal yn mynd yn ddistaw yn ystod adegau penodol o'r diwrnod, yn ôl Eric, sef pan oedd y ras yn dechrau ac yn gorffen ayyb, wrth i bobl fynd draw i gefnogi.
Gwahanu i ddatblygu
Cafodd y penderfyniad ei wneud i wahanu'r ddau ddigwyddiad, sef rhywbeth positif yn ôl Eric, gan fod hyn wedi rhoi cyfle i'r ddau gael datblygu a thyfu ar eu pen eu hunain. Erbyn hyn, mae rhedwyr o amgylch y byd yn dod i roi cynnig ar redeg i fyny ac i lawr mynydd talaf Cymru.
Roedd blynyddoedd olaf y carnifal yn hynod llwyddiannus, ac mae Eric yn meddwl efallai mai dyna beth achosodd i bethau ddod i ben. Fel yn achos Trebiwt, roedd gymaint o waith i'w wneud i drefnu'r holl ddigwyddiadau, a nifer y gwirfoddolwyr yn mynd yn llai ac yn llai.
Llwyddiant yn lladd?
Felly llwyddiant sydd wedi lladd y dau ddigwyddiad yma a nid methiant. Ydy eu llwyddiant a'u maint wedi golygu ei bod hi wedi troi'n amhosib i'r gymuned leol eu trefnu? Neu oes bai ar y gymuned am beidio bod yn barod i dorchi llawes a helpu i sicrhau parhâd y digwyddiad?
Golau ar bendraw'r twnel
Wel mi ddaeth eto tro ar fyd, i un o'r digwyddiadau o leiaf. Yn 2013, yn dilyn sgwrs â ffrind, soniodd Keith ar Facebook y byddai'n hapus i helpu trefnu Carnifal Trebiwt unwaith yn rhagor. Roedd yr ymateb bositif, ynghyd â'r negeseuon o gefnogaeth a'r atgofion oedd yn cael eu rhannu yn galonogol iawn ac yn hwb i'r hyder, ac yn ddigon o berswâd iddo geisio mynd ati o ddifri' i wneud i hyn ddigwydd.
Y llynedd, cafodd Carnifal Trebiwt ei chynnal am y tro cyntaf ers 16 o flynyddoedd, ac er ei bod hi'n ddiwrnod eithaf gwlyb, mynychodd cannoedd o bobl ac roedd pawb wedi cael hwyl.
Gobaith i Lanberis?
Felly tybed allai hyn ddigwydd yn Llanberis? Mae Eric wedi gweld fod rhai o drigolion y dref wedi sôn ar Facebook eu bod am ddadebru Carnifal Llanberis unwaith yn rhagor, a bod mwy nag un aelod o'r pwyllgor trefnu gwreiddiol yn fwy na bodlon cynnig help llaw a chyngor. Felly all cyfryngau cymdeithasol helpu i atgyfodi hen draddodiad y carnifal, a helpu iddo barhau? Gadewch i ni obeithio.
Ond mae un peth yn sicr. Y tro nesaf i chi gwyno fod dim byd yn digwydd yn eich ardal chi, rhaid i chi ofyn i'ch hun beth ydych chi'n ei wneud am y peth?