Dynes yn cyfaddef iddi dwyllo'r Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Mae dynes o Lundain wedi cyfaddef iddi dderbyn £100,000 gan Gynulliad Cymru drwy dwyll, ar ôl iddi dwyllo swyddogion i gredu eu bod yn talu am wasanaeth glanhau.
Fe dderbyniodd Tracey Baker, 44 oed, chwe thaliad rhwng Hydref 2013 a Mehefin 2014 gan gredu eu bod yn talu'r arian i gyfrif cwmni o'r enw Total Support Services.
Clywodd Llys y Goron Croydon fod swyddogion y Cynulliad wedi eu twyllo a'u perswadio i dalu arian i gyfrif Tracey Baker ar ôl iddi anfon llythyr ffug yn honi fod manylion banc y cwmni glanhau wedi newid.
Roedd y cyfrif banc yn eiddo i Baker ac fe dderbyniodd gyfanswm o £104,000 i gyd.
Plediodd yn euog i dderbyn eiddo troseddol ond roedd yn gwadu ysgrifennu llythyr ffug i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Dywedodd y Barnwr Jeremy Gold y bydd y cyhuddiad o dwyll drwy anwiredd yn aros ar ei ffeil. Ychwanegodd y barnwr: "Rydych wedi pledio'n euog i drosedd gyfreithiol ddifrifol ac yn bendant nid oes sicrwydd na fyddwch yn mynd yn syth i garchar."
Cafodd yr achos ei ohirio ac fe fydd Baker yn cael ei dedfrydu fis nesaf.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad: "Fe gafodd y drosedd ei theimlo tu hwnt i'r Cynulliad ac roedd yn destun ymchwiliad troseddol helaeth sydd bellach wedi dod i ben gyda'r euogfarn hwn.
"Bu Swyddogion Comisiwn y Cynulliad yn gweithio gyda'r heddlu er mwyn erlyn y troseddwyr.
"Mae pob cam a gymerwyd ers y drosedd wedi cael ei drafod yn llawn gydag archwilwyr y Cynulliad a phwyllgor archwilio Comisiwn y Cynulliad. Mae'r Comisiwn wedi cryfhau eu rheolaethau er mwyn sicrhau bod troseddau tebyg yn cael eu hatal yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- 23 Medi 2014
- 2 Ebrill 2015