Angen 'gwneud mwy' i gleifion anhwylderau bwyta
- Cyhoeddwyd

Mae angen gwneud llawer mwy i wella profiadau cleifion sy'n dioddef o anhwylderau bwyta yng Nghymru, yn ôl un o grwpiau trawsbleidiol y Cynulliad.
Mae'r Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta, sy'n cael ei gadeirio gan Bethan Jenkins AC, wedi bod yn casglu ymateb gan bobl sy'n defnyddio ac yn darparu gwasanaethau yn y maes, wrth i'r llywodraeth ddiweddaru Fframwaith Anhwylderau Bwyta Cymru.
Mae adroddiad y grŵp, sy'n cynnwys defnyddwyr gwasanaethau a'u teuluoedd, gofalwyr, pobl broffesiynol a gwleidyddion, yn nodi tair prif flaenoriaeth: adolygu'r fframwaith, codi proffil anhwylderau bwyta, a gwella agweddau a lleihau stigma.
Yn yr adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, mae'r grŵp yn galw ar Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n gyfrifol am ddiweddaru'r fframwaith ar ran y Llywodraeth, i wneud ei waith yn fwy 'agored' ac yn 'dryloyw'.
Wrth gydnabod bod peth cynnydd wedi'i wneud, dywedodd Bethan Jenkins ei bod yn amlwg "y gellir gwneud llawer mwy i wella gwasanaethau anhwylderau bwyta a phrofiadau cleifion yng Nghymru".
'Diweddaru'
Ychwanegodd: "Mae'n hanfodol bod y polisi yng Nghymru yn cael ei ddiweddaru a'i fod yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau anhwylderau bwyta, yn ogystal â sicrhau nad yw'r bobl wych sy'n gweithio mewn gofal iechyd yn wynebu rhwystrau diangen i gyflwyno gofal rhagorol."
Un aelod o'r grŵp trawsbleidiol yw James Downs o Gaerdydd, sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau ei hun, ac mae'n dweud y dylai buddsoddi i ehangu'r gwasanaethau arbenigol fod yn flaenoriaeth allweddol i'r llywodraeth.
Mae'n dweud bod galw enbyd am "wasanaethau gydag adnoddau priodol sy'n cadw pobl allan o'r ysbyty a'u cefnogi'n effeithiol yn y gymuned".
Aelod arall o'r grŵp yw Manon Lewis o Gaerfyrddin, sydd wedi cael cyfle wrth baratoi'r adroddiad i ddelio â rhai o'r anawsterau a wynebodd hi ei hun wrth ddioddef o anhwylder bwyta.
'Herio stigma'
Dywedodd Ms Lewis: "Mae angen i ni wella gwybodaeth a dealltwriaeth ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd er mwyn i bobl gael y gefnogaeth briodol cyn gynted ag y bo modd.
"Mae'n rhaid inni hefyd herio'r stigma a'r gwahaniaethu mae dioddefwyr yn eu hwynebu."
Cyhoeddodd y llywodraeth ei fframwaith ar gyfer anhwylderau bwyta yn 2009, ac mae'n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd ffigurau a ddaeth i law BBC Radio Wales yn 2014 yn dangos bod cynnydd o 75% wedi'i gofnodi mewn degawd yn nifer y cleifion o Gymru a oedd yn gorfod cael triniaeth ysbyty o ganlyniad i anhwylderau bwyta.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn buddsoddi £1m y flwyddyn i ddarparu triniaeth yn y gymuned i oedolion, gyda £250,000 y flwyddyn yn ychwanegol ers 2013 yn mynd ar wella darpariaeth i blant a phobl ifanc.