Cwest cyn filwr: Rheithfarn naratif

  • Cyhoeddwyd
Andrew RobertsFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd corff Andrew Roberts ei ddarganfod yn ei gartref ar ddydd Nadolig 2011

Mae rheithfarn naratif wedi ei chofnodi mewn cwest i farwolaeth cyn filwr o Rhuthun.

Clywodd y cwest bod Andrew Roberts wedi cael ei arestio a'i ryddhau ddwywaith gan yr heddlu cyn iddo gael ei ganfod yn farw yn ei gartref yn Rhuthun ar ddydd Nadolig 2011.

Dywedodd y rheithfarn ei fod "yn fwy tebygol na ddim bod Andrew Roberts wedi bwriadu crogi ei hun, ac yn fwy tebygol na ddim ei fod wedi bwriadu lladd ei hun, ond ni allwn fod yn sicr o'i fwriad".

Dywedodd y crwner John Gittins fod ganddo ddyletswydd fel crwner i geisio rhwystro marwolaethau yn y dyfodol, ac y byddai'n ceisio cael sicrwydd gan Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am y defnydd o gardiau trosglwyddo gofal cleifion.

Clywodd y cwest am un achos pan gafodd Mr Roberts ei gludo i'r ysbyty i gael ei archwilio, ac yna fe gafodd ei gludo yn ôl i'r ddalfa yn ddiweddarach heb gerdyn trosglwyddo gofal.

Pan gysylltodd yr heddlu gydag Ysbyty Glan Clwyd i weld os oedd asesiad seiciatryddol wedi cael ei wneud, fe ddywedwyd bod asesiad wedi ei gwblhau, pan nad oedd hynny wedi digwydd.

'Trychineb'

Dywedodd Mr Gittins efallai na fyddai hyn wedi gwneud gwahaniaeth yn yr achos yma ond roedd am dderbyn sicrwydd y byddai swyddogion sy'n gadael ysbytai yn y dyfodol gyda chleifion yn eu gofal yn gwneud hynny gyda chardiau trosglwyddo gofal.

Hefyd, dywedodd y byddai'n rhaid i'r cerdyn trosglwyddo gofal gael ei gwblhau gan feddyg sydd yn archwilio'r claf.

Tu allan i'r cwest, dywedodd gweddw Mr Roberts, Jenny Roberts: "Roedd Andy yn dad, gŵr, mab a brawd cariadus.

"Roedd ei farwolaeth yn drychineb sydd wedi rhwygo'r teulu ac roedd yn drychineb y byddai wedi bod mor hawdd i'w rhagweld.

"Roedd Andy'n ddyn oedd wedi ei boenydio gan iselder. Roedd wedi gwneud sawl cri am gymorth oedd yn cynnwys cymryd gorddos o feddyginiaeth presgripsiwn a di-bresgripsiwn.

"Roedd angen cymorth arno a hynny ar frys. Roedd yn berygl iddo'i hun ac roedd wedi gwneud hynny'n gwbl eglur."