Betsi Cadwaladr: Cytuno ar ymgynghoriad mamolaeth

  • Cyhoeddwyd
Cyfarfod Betsi
Disgrifiad o’r llun,
Cyfarfod arbennig Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn trafod ddydd Mawrth

Mae bwrdd iechyd wedi cytuno i ymgynghori ar gynlluniau dadleuol all weld rhai gwasanaethau mamolaeth yn cael eu tynnu o ysbyty yng ngogledd Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ystyried cynlluniau i leihau gwasanaethau yn un o dri ysbyty'r ardal - Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Fis Ionawr, fe gymeradwyodd y bwrdd gynllun i israddio'r uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd dros dro, ond fe wnaeth y penderfyniad gythruddo nifer yn lleol ac roedd rhaid i'r bwrdd ildio yn y pendraw.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, dywedodd cyfarwyddwr meddygol y bwrdd: "Bydd unrhyw newid yn newid dros dro, ac am cyn lleied o amser a sy'n bosibl i sefydlogi'r gwasanaeth."

'Bygythiad'

Bwriad Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd i israddio'r uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, gyda genedigaethau mwy cymhleth yn cael eu trosglwyddo i Fangor neu Wrecsam.

Ar y pryd, dywedodd y bwrdd bod y problemau yn cael eu hachosi oherwydd prinder meddygon a bod y sefyllfa mor ddifrifol nad oedd cyfle iddyn nhw ofyn am farn y cyhoedd.

Ond fe wnaeth y penderfyniad gythruddo nifer yn lleol. Fe gafodd y penderfyniad ei herio'n gyfreithiol ac fe ildiodd y bwrdd iechyd yn y pen draw.

Mewn cyfarfod i drafod y sefyllfa ddydd Mawrth, dywedodd cyfarwyddwr meddygol y bwrdd, Yr Athro Matthew Makin: "Mae awydd cyffredinol i sicrhau diogelwch mamau a babanod - a dyna pam ry'n ni gyd yma.

"Mae newid i wasanaethau yn cael ei weld fel bygythiad, ond ni fydden ni yn awgrymu newidiadau oni bai ein bod yn teimlo bod y perygl dy'n ni'n dygymod â ar hyn o bryd yn mynd allan o'n rheolaeth.

"Bydd unrhyw newid yn newid dros dro, ac am cyn lleied o amser a sy'n bosibl i sefydlogi'r gwasanaeth."

Disgrifiad o’r llun,
Gall y bwrdd benderfynu israddio gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd

'Anawsterau difrifol'

Yn siarad ddydd Sul, dywedodd pennaeth dros dro'r bwrdd, Simon Dean, bod unedau mamolaeth wedi gorfod cau ar fyr rybudd yn y gorffennol oherwydd "anawsterau difrifol" wrth recriwtio meddygon.

Dywedodd: "Bu'n rhaid i unedau gau am gyfnodau o amser pan nad yw wedi bod yn bosib rhoi gofal i famau a babanod mewn modd diogel."

Er mai israddio Glan Clwyd yw'r opsiwn mae'r penaethiaid yn parhau i'w ffafrio, bydd y bwrdd cyfan yn cwrdd i benderfynu os fydd ymgynghoriad ar hwnnw ac opsiynau eraill - allai olygu israddio gwasanaethau mamolaeth ym Mangor neu Wrecsam.

Mae rhai sydd yn erbyn y cynllun i israddio gwasanaethau Glan Clwyd yn dweud y byddai'r newid yn creu mwy o risg i fenywod sy'n gorfod teithio yn bellach i weld meddyg.

Mae gwleidyddion lleol a'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig hefyd wedi bod yn feirniadol iawn o'r bwrdd iechyd am beidio â gofyn am farn y cyhoedd wrth greu'r cynlluniau.

Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ym mis Tachwedd ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben.