Alun Cairns: 'Pwerdy'r gogledd i ddod a hwb i Gymru'
- Cyhoeddwyd

Bydd gogledd Cymru yn cael budd o ganolbwynt economaidd ardal "pwerdy'r gogledd" yn Lloegr, yn ôl Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns.
Mae Mr Cairns a Gweinidog Pwerdy'r Gogledd James Wharton yn cyfarfod arweinwyr busnes yng Nghonwy, Sir y Fflint a Sir Gaer i amlinellu'r golygon.
Dywedodd Mr Cairns bod gogledd ddwyrain Cymru mewn "safle perffaith" i gael budd o'r cynllun.
Bydd ffatri Toyota, KK Foods a chapel sydd wedi ei drawsnewid i hwb technegol yn rhan o'r daith.
"Mae'r amlwg ein bod yn gweld yr economi yn cryfhau ar draws Cymru - mae ffigyrau diweithdra'r wythnos diwethaf yn dangos hynny," meddai Mr Cairns.
Yn talu teyrnged i gwmnïau allforio'r rhanbarth, dywedodd ei fod eisiau "annog arweinwyr busnes yng ngogledd y wlad i ddod at ei gilydd a gweld sut allwn ni fuddio o gysylltiadau agos."