Cyfraddau goroesi unedau anafiadau difrifol yn gwella

  • Cyhoeddwyd
Uned gofal
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r galw am ofal mewn unedau anafiadau difrifol yn cynyddu, yn ôl yr adroddiad

Mae cyfraddau goroesi i gleifion sy'n cael eu trin mewn unedau anafiadau difrifol yng Nghymru yn cynyddu, yn ôl yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar y gwasanaeth.

Yn 2014-15, fe wnaeth y nifer gafodd eu trin mewn unedau brys gynyddu 8% i 9,700 o'i gymharu â'r flwyddyn gynt.

Mae'r llywodraeth yn dweud bod cyfraddau goroesi yn gwella gyda 83% o gleifion unedau anafiadau difrifol yn cael eu rhyddhau i wardiau arall, i fyny o 79% yn 2011-12.

Ond mae'r llywodraeth wedi annog byrddau iechyd i leihau ar oedi yn trosglwyddo cleifion.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething bod angen parhau gyda'r gwelliant.

Yn ôl Mr Gething, mae'r adroddiad yn "rhoi sylw i'r gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud mewn unedau gofal critigol ar hyd a lled Cymru".

Ychwanegodd: "Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i'r meysydd sydd angen eu gwella'n gyflym, a rhaid i'r byrddau iechyd sicrhau bod ganddynt gynlluniau cadarn ar waith i gael gwared ar brosesau aneffeithiol yn y system, fel oedi wrth drosglwyddo gofal."