Johanna Powell: Cwest marwolaeth Laos i gymryd tri mis

  • Cyhoeddwyd
Johanna PowellFfynhonnell y llun, Facebook
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Johanna Powell ar wyliau gyda thri o'i ffrindiau pan fu farw

Mae gwrandawiad wedi clywed y dylai cwest i farwolaeth dynes o Gaerdydd fu farw ar wyliau yn ne-ddwyrain Asia gael ei gwblhau o fewn tri mis.

Bu farw Johanna Powell, oedd yn 37 oed ac yn olygydd lluniau i BBC Cymru, yn Laos ar 11 Ebrill.

Roedd hi ar wyliau gyda ffrindiau pan wnaeth y cwch oedden nhw'n teithio arno droi drosodd ar afon Mekong ger Pak Beng.

Ddydd Mawrth, clywodd Llys Crwner Aberdâr nad oedd modd parhau gyda'r cwest gan nad oedd adroddiad terfynol wedi ei dderbyn o dramor.

Gofynnwyd i deulu Ms Powell os fyddai'n well ganddyn nhw i ddisgwyl i'r ymchwiliad tramor ddod i ben - all gymryd blynyddoedd - neu i barhau gyda'r cwest ar sail datganiadau gan dystion Ewropeaidd.

Dywedodd rhieni Ms Powell, Teresa a Donald Powell, eu bod yn ffafrio parhau gyda'r cwest.