"Glywsoch chi'r jôc?..."
- Cyhoeddwyd

Be sy'n g'neud i chi chwerthin? Mae rhai yn gallu gweld rhywbeth yn ddoniol ymhob sefyllfa tra mae eraill yn ei chael hi'n anodd i ffurfio gwên hyd yn oed.
Mae gan Idris Charles brofiad helaeth o ddweud jôcs a straeon doniol ar sioeau teledu a llwyfannau ar hyd a lled Cymru.
Mi gafodd Idris ei ysbrydoli gan ei dad, y diweddar actor a digrifwr Charles Williams. Mae'n hel atgofion am hiwmor ei dad mewn cyfrol newydd "Charles: cofio'r dyn a'i ddigrifwch". Mae Idris yn trafod sut mae comedi wedi datblygu ers dyddiau prentisiaeth ei dad ymhlith gweision fferm Ynys Môn.
Chwerthin y llofft stabl
Mae comedi bron iawn wedi bod yn obsesiwn efo fi, ers pan dwi'n ddigon hen i gofio. Mi glywais y comedi gorau erioed, mewn tas wair ym Modffordd, gydag un o ddigrifwyr gorau Cymru yn dweud y jôcs.
Dwi'n cofio'r gwahanol leisiau oedd yn creu cymeriadau byw o flaen fy llygaid, yr ystumiau corfforol oedd yn ychwanegu at y stori, ar ansoddeiriau oedd yn rhoi lluniau yn fy mhen… fy nhad oedd y digrifwr hwnnw.
O'r dâs wair honno, y daeth grym hiwmor i fy meddiannu. O ddyddiau ifanc o wrando ar y radio, ar bobol megis Arthur Askey, Tony Hancock, Ken Dodd, i wylio teledu, daeth clywed chwerthin yn gyffur na allwn fyw hebddo.
Arwr arall oedd Charlie Drake gyda'i frawddeg gofiadwy "Hello my Darlings". Charlie bob wythnos yn chwilio am waith, a methu. Mi fyddwn hefyd yn disgwyl yn eiddgar i weld Harry Worth yn sefyll rhwng dwy ffenest, a chodi ei goes a'i fraich, i geisio cyfleu gwrth ddisgyrchiant, pan oedd yn hongian yn yr awyr.
Wedyn dyna chi addysg i brentis o ddigrifwr, oedd gwylio digrifwyr oedd yn dibynnu yn llwyr ar ystumiau eu cyrff, heb ddweud yr un gair. Charlie Chaplin a Laurel and Hardy oedd yr enwocaf, ond fy ffefryn i oedd Buster Keaton, a hynny am i mi ddod i ddeall, ei fod yn gwneud ei stunts ei hun.
'Roedd wyneb di-wên Buster yn rhoi i mi'r argraff, ei fod yn ddyn diniwed, di freintiedig ar goll yn y byd mawr o'i gwmpas nad oedd yn ymwybodol ohono.
Yn y dyddiau cynnar pan ddois i werthfawrogi comedi, ychydig iawn o ddigrifwyr Cymraeg oedd ar y radio, a bron ddim ar y teledu.
Yr adroddwr digri
Y cof cynta' am ddyn yn sefyll o flaen cynulleidfa fel digrifwr oedd Richard Hughes y Co Bach, er nid digrifwr jôcs oedd o, ond yn hytrach adroddwr digri, a digri iawn oedd o hefyd.
Pan oedd cyngerdd, neu Noson Lawen yn cael ei threfnu mewn pentrefi a threfi ein gwlad, doedd byth enw digrifwr ar y poster, adroddwr digri falle, ond yn sicr ddim digrifwr.
Yr Arweinydd fyddai'r person dweud jôcs, felly wrth ddewis arweinydd 'roedda chi yn dewis dyn neu ddynes oedd â'r ddawn i lenwi rhwng eitemau drwy ddweud jôcs.
Pan oeddwn i yn trefnu nosweithiau Sêr Cymru yn y Majestic yn niwedd y 60au, dechrau'r 70au, nosweithiau adloniadol o'r radd uchaf, doedd dim sôn am gael digrifwr, a doedd y term saesneg stand up ddim wedi ei greu, ond 'roedd cael Arweinydd oedd yn adnabyddus am ddweud straeon doniol yn hanfodol.
Fe wnaeth y bobol yma gyfraniad aruthrol o bwysig i lwyddiant y nosweithiau adloniadol, yn arwain y gad fel tae oedd Dilwyn Edwards, Glan Davies, Trefor Selway, Alun Lloyd, Mair Garnon, Peter Hughes Griffiths a llawer mwy. Prif orchwyl y bobl hyn oedd cadw trefn ar y noson, sicrhau fod y noson yn rhedeg yn rhwydd, gyda phinsiad go dda o jôcs am yn ail â'r perfformwyr.
'Stand-up' yn y geiriadur
Mae'r digrifwr ar hyd y blynyddoedd wedi cael cam, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ar lwyfannu'r byd. Cymerwch er enghraifft y byd adloniant yn Lloegr, o ddechrau'r 20fed ganrif 'roedd posteri anferth yn cael eu cynhyrchu, i hysbysebu'r sioeau, 'roedd rhaid iddynt fod yn anferth i gael lle i'r holl artistiaid oedd yn perfformio.
Roedd yr un peth, ond ar ffurf fwy amaturaidd yma yng Nghymru. Fe ddaeth dyddiau'r sioeau mawr i ben, ychydig iawn o sioeau 'Summer Seasons' sydd ar ôl.
Mae cael noson fawr gyda llond llwyfan o ddiddanwyr wedi mynd yn brin yma yn ein gwlad ni, ar wahân i achlysuron arbennig, ond dyma sy'n od, ma' digonedd o leoliadau i gantorion o bob math berfformio, tafarn, clwb, ac fe all y canwr, cantorion eistedd ar stôl a chanu drwy'r nos.
Ond ymhen amser fe ddaeth y stand up comedian yn berson unigryw yn Lloegr, ac fe gafodd y term stand up ei gyhoeddi a'i gydnabod yng ngeiriadur Rhydychen a geiriadur Webster yn 1966 bron i hanner can mlynedd yn ôl.
Y Jocars
Rhoddodd S4C rwydd hynt i mi arbrofi efo stand up Cymraeg yn y gyfres Y Jocars, oedd yn dilyn llwyddiant The Comedians ar Granada. A'i hwn oedd y dechrau?
Bellach mae 'na glybiau comedi, a dim ond digrifwyr yn diddanu, meddyliwch am Tŷ Golchi yn Y Felinheli, poster lliwgar yn hysbysebu noson o adloniant, a phob un enw ar y poster yn ddigrifwr.
Rhaid cydnabod fodd bynnag, fod arddull y stand up wedi newid cryn dipyn o ddyddiau'r Jocars, rhoi rhesi o jôcs yn sownd yn ei gilydd oedd y syniad pryd hynny, ond mae'r stand up heddiw fe petaent yn rhoi hanes digwyddiadau eu bywyd, dweud pethau doniol am hir iawn, a dim punchline sy'n glyfar iawn, ac yn ddoniol iawn.
Mae digrifwyr heddiw yn sêr mawr, ac yn cael arian mawr am rannu o'i talent, mi fyddai Lee Mack, Michael McIntyre, Rob Brydon, Peter Kay a'u tebyg yn gallu llenwi stadiwm gyda dros 30,000 o bobol, a'r torfeydd yn talu ffortiwn, i gael chwerthin.
Mae digrifwyr Cymraeg hefyd y cael eu lle haeddiannol, ar radio a theledu, gyda Tudur Owen yn arwain y fintai gref.
Mae pawb, yn hoffi chwerthin, dyna pam fod digrifwch a dweud jôcs yn rhywbeth sydd wedi bod erioed, dwi'n siŵr fod Adda ac Efa di rhannu jôcs, a phob un yn newydd!
Roedd hyd yn oed William Shakespeare yn hoffi comedi, er fydda'r hen Shakes ddim yn cael llawer o laffs fel stand up yn yr Apollo chwaith…
"There live not three good men unhanged in England: and one of them is fat."
Falstaff yn King Henry iv, Act ii Golygfa iv
Ond, fel dwedodd Dic Aberdaron ''Dydi pawb ddim yn gwirioni'r un fath''.