Teyrnged wedi gwrthdrawiad car ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd

Mae teyrnged wedi ei rhoi i ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar Ffordd Afan, Port Talbot ddydd Sul.
Roedd Andrew Lee Thomas James o Benrhiwfer yn y Rhondda yn 26 oed.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y Suzuki Ignis arian yr oedd Mr James yn ei yrru a char Ford Focus du am 21:55 nos Sul, ger y gyffordd rhwng Ffordd Afan a Ffordd Victoria.
Mewn datganiad, dywedodd teulu Mr James, oedd yn dad i ddau o blant, ei fod yn byw bywyd "yn llawn".
"Roedd o'n fab, llysfab, brawd, ewythr ac ŵyr cariadus. Mae ei farwolaeth wedi gadael twll anferth yn ein bywydau na fydd yn gallu cael ei lenwi."
Mae tri o bobl yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn y gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion.